Dathlu Dulliau Dysgu Cyfoedion ar Gampws Caerfyrddin (PASS) gan Chris Fleming a Kate Butler

Sesiynau Astudio gyda Chymorth Cymheiriaid yw PASS. Mae hwn yn ddull o ddysgu cymheiriaid a ddefnyddir yn eang mewn prifysgolion, lle mae myfyrwyr o dan hyfforddiant a goruchwyliaeth myfyrwyr o lefelau blynyddoedd uwch (a elwir yn arweinwyr neu fentoriaid PASS) yn gweithio gyda’r rhaglen Porth i’r Dyniaethau a myfyrwyr blwyddyn gyntaf i’w helpu i atgyfnerthu‘r hyn a ddysgan nhw o gwmpas modylau penodol, hwyluso’r pontio i’r brifysgol a helpu i ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol ar draws blynyddoedd myfyrwyr. Gall PASS hefyd fod o fudd i hyder academaidd myfyrwyr a’u hymdeimlad o berthyn mewn prifysgol ac mae bod yn arweinydd yn cynyddu posibiliadau cyflogaeth. Eleni, aeth Y Drindod Dewi Sant ati i dreialu dysgu cymheiriaid yn y rhaglen Porth i’r Dyniaethau, lle mae arweinwyr PASS wedi gweithio ar y cyd â darlithydd wrth gynllunio a hwyluso cynnwys. Roedd hyn yn llwyddiant mawr, a hoffai’r goruchwylwyr estyn ein diolchgarwch i’r arweinwyr dan sylw – buoch chi’n gymorth mawr! Yn ddiweddar, rydyn ni wedi dyfarnu ein hail-recriwtiaid diweddaraf gyda thystysgrifau ar ôl pasio eu hyfforddiant gyda ni.
Dyma rai sylwadau gan fyfyrwyr ar y rhaglen Porth i’r Dyniaethau:
‘Mae PASS wedi rhoi’r hyder i mi leisio barn mewn sesiynau grŵp.’
‘Mae’r tîm PASS wedi bod o gymorth mawr mewn sesiynau ac maen nhw wedi fy helpu i ddeall y pynciau dan sylw’n well.’
“Mae arweinwyr PASS wedi egluro pwyntio yn ystod y dosbarthiadau a’r darlithoedd a gallen nhw ddefnyddio eu profiadau eu hunain i esbonio sut i ymdrin â phroblemau.’
‘Gall cael arweinwyr PASS yn y darlithoedd fod yn agoriad llygad i ni wrth iddyn nhw roi syniadau, cysyniadau newydd i ni ac awgrymu ffyrdd newydd o ymchwilio deunydd. Mae’r Tîm PASS hefyd wedi bod yn gyflwyniad hanfodol i fywyd Prifysgol ac yn ffynhonnell gwybodaeth ar gyfer yr adnoddau sydd ar gael i ni yn fyfyrwyr newydd.’
‘Mae arweinwyr PASS yn grŵp ardderchog o bobl, fe wnaethon nhw helpu gyda’n hastudiaethau ni a rhoi cip i ni ar fywyd prifysgol.’
‘Mae aelodau PASS wedi bod o gymorth mawr yn ystod y sesiynau. Maen nhw bob amser yn esbonio pethau’n dda os nad ydych chi’n deall ac yn barod iawn eu cymwynas.’
I gael rhagor o wybodaeth am PASS yn Y Drindod Dewi Sant, cliciwch yma:here. Rydyn ni’n awyddus i hyfforddi myfyrwyr sydd wedi dod trwy’r rhaglen Porth i’r Dyniaethau yn arweinwyr/mentoriaid felly os oes gennych chi ddiddordeb yn hyn, cysylltwch â Kate neu Chris, y goruchwylwyr PASS ar gyfer campws Llambed (k.butler@uwtsd.ac.uk,christopher.fleming@uwtsd.ac.uk). Yn yr un modd os ydych chi’n dilyn modwl a allai, yn eich barn chi, elwa oherwydd cyfranogiad arweinwyr PASS, rhowch wybod i ni.
Leave a Reply