CYFLWYNO MEWN CYNHADLEDD ACADEMAIDD: DEFOD DECHRAU MYFYRIWR PHD

Image

Sut brofiad yw cyflwyno papur academaidd am y tro cyntaf? Yn y blog hwn, byddwn yn clywed gan fyfyriwr PhD Henry Bohun am ei brofiadau yng Nghynhadledd Sefydliad Prifysgolion Cymru ar gyfer y Clasuron a Hanes yr Hen Fyd y mis diwethaf.

Ym mis Tachwedd, cyflwynes i fy mhapur academaidd ffurfiol cyntaf yng Nghynhadledd Sefydliad Prifysgolion Cymru ar gyfer y Clasuron a Hanes yr Hen Fyd (UWICAH) yn Abertawe.

Ar ôl cytuno i siarad hyd pan oeddwn i’n sefyll gerbron y siaradwyr eraill a’r bobl eraill a oedd yn bresennol, arina hashimoto doedd dim adeg pan deimles i’n hollol ‘barod’ i gyflwyni fy mhapur.

Felly roedd y cyfnod cyn y gynhadledd yn un nerfus ac yn un cyffrous.

Roeddwn i’n nerfus am mai hwn oedd fy mhapur cynhadledd cyntaf ers dechrau ar fy PhD ym mis Chwefror 2019. Hwn hefyd oedd y tro cyntaf mewn pedair blynedd i mi siarad gerbron cynulleidfa am unrhyw beth sy’n gysylltiedig â’m hastudiaethau, bdsm porn games (cymeres i hoe dros nifer o flynyddoedd ar ôl gorffen fy ngradd meistr!).

Ar yr un pryd, roeddwn i’n llawn cyffro i gyflwyno yn y gynhadledd, yn enwedig gan mai Prifysgol Abertawe oedd yn ei chynnal hi eleni, lle’r oeddwn wedi astudio ar gyfer fy ngraddau israddedig a Meistr.

I ychwanegu at y disgwyl eiddgar, thema’r gynhadledd oedd ‘Naratifau Pŵer’ a oedd yn cyd-fynd i’r dim â’m hymchwil doethurol, sy’n archwilio cwlt y rheolwr yn y llinach Btolemaidd yn Aifft yr Hen Fyd.

Roedd llawer o siaradwyr yn y gynhadledd eleni. Cymaint, felly, nes bod rhaid i’r trefnwyr gynnal paneli ar wahân ac ar y cyd. Yn ystod y diwrnod, clywsom am sut y caiff naratifau pŵer eu dehongli ym meysydd y Clasuron, Hanes yr Hen Fyd ac Eifftoleg, a’r siaradwyr yn trafod y thema trwy iaith, eiconograffeg, archaeoleg, crefydd a dulliau eraill.

Roeddwn i’n lwcus, oherwydd ces i gyfle i ymarfer fy anerchiad rai diwrnodau ymlaen llaw yn rhan o seminar ymchwil Pobloedd y Gorffennol a Chymdeithasau’r Presennol yn Llambed. Roedd annerch y prynhawn ymchwil ôl-raddedig yn ddefnyddiol dros ben gan i mi dderbyn llawer o adborth adeiladol gan gydfyfyrwyr, ymchwilwyr a darlithwyr. Cafodd fy ngoruchwylwyr, Dr Katharina Zinn a Dr Kyle Erickson, hefyd y cyfle i helpu i fireinio fy mhapur. Roedd hyn i gyd yn hwb mawr i’m hyder i ar gyfer y prif ddigwyddiad yn Abertawe!

Aeth fy mhapur yn y gynhadledd (‘Exploring Ptolemy II within the Narrative of Ancient Egyptian Kingship: Ruler Cult and Material Culture’) yn dda iawn. Ond mae siarad o flaen pobl yn dal i fod yn brofiad rhyfedd. Des i’n hynod o ymwybodol o’m llais fy hun. Oherwydd tawelwch a llonyddwch yr ystafell gwnaeth fy ‘monolog mewnol’ i mi feddwl bod y seibiannau yn fy anerchiad yn hwy nag yr oedden nhw mewn gwirionedd. Sawl gwaith dyma fi’n meddwl. ‘dere, d’wed rywbeth eto!’ Ond fel arall, doedd dim problemau mawr!

Roedd y cwestiynau gan y cwestiynau wedyn, yn ogystal â sgyrsiau dros ginio gyda’r nos, yn symbyliad ac yn ddiddorol. Gwaeth y diwrnod cyfan fy helpu i ddatblygu fy syniadau a’m hymchwil. Roedd pawb yn gyfeillgar dros ben ac roedd hi’n dda cwrdd cynifer o wynebau newydd.

Pen draw’r holl bethau hyn oedd mai fy amser yn y gynhadledd oedd un o’m hoff bethau ers dechrau fy noethuriaeth. Rhoddodd y gynhadledd gyfle i mi sôn am fy syniadau mewn amgylchedd cyfeillgar,

a chyfarfod â llu o ysgolheigion diddorol. Tra roeddwn i yn Abertawe, ces i hefyd gyfle i ddal i fyny gyda rhai hen ffrindiau a darlithwyr, a chael pwl o hiraeth – yn enwedig wrth gerdded trwy’r campws a’r ddinas. Roedd hi’n braf gweld y myfyrwyr Thomas Humphrey a Christopher Fleming o’r Drindod Dewi Sant yn y gynhadledd hefyd.

Felly rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno’r papurau eraill. Bonws bach arall yw gwybod cynhadledd y flwyddyn nesaf yn Llambed.

Amdani ar gyfer cynhadledd 2020!

Yn y llun gwelir Henry gyda’i gydfyfyrwyr Hanes yr Hen Fyd yn Y Drindod Dewi Sant, Kyle Erickson, Thomas Humphrey a Christopher Fleming.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

*