Yn y Drindod Dewi Sant, anogwn ein myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i fanteisio ar bob cyfle i fynychu cynadleddau academaidd. Yn y darn hwn, clywn gan Justin McLean am ei brofiadau ef a Troy Wilkinson yn y gynhadledd ‘Defining Space: The Frontier in Ancient History’ yn yr Almaen y llynedd.

Ym mis Medi, mynychais ‘Defining Space: The Frontier in Ancient History,’  ysgol haf a gynhaliwyd gan Brifysgol Oldenburg, gyda fy nghyd-fyfyriwr ôl-raddedig yn Llambed, Troy Wilkinson.

Cynhaliwyd y gynhadledd ar ynys Juist ym Môr y Gogledd, ychydig oddi ar arfordir godidog Sacsoni Isaf.

Roeddem yn ffodus iawn i fod yno … ac nid yn unig am ei bod yn fraint mynychu digwyddiad mor nodedig.

Ni chawsom y dechrau gorau ar ein taith. Teithiom i Juist ar gwch fferi sigledig, gan gyrraedd yn y tywyllwch ac yng nghanol storm.

A ninnau’n wlyb, yn anniben ac ar goll braidd, llwyddon ni i wneud ein ffordd i hostel ieuenctid cyn cael ychydig o gwsg haeddiannol cyn y gynhadledd.

Drannoeth cwrddon ni â’r cynadleddwyr eraill ac roedd yn bleser cwrdd â chriw mor amrywiol a rhyngwladol. Yn ein grŵp ni roedd myfyrwyr israddedig o Brydain a myfyrwyr PhD o America, ynghyd ag Almaenwyr a Rwsiaid.

Ar ôl cychwyn, gwelwyd bod y gynhadledd yn cynnwys cymysgedd yr un mor gyffrous o siaradwyr.

Roeddwn i’n ffodus i fynychu seminarau dan arweiniad rhai o athrawon cadeiriol mwyaf blaenllaw’r byd megis Michael Sommer o OldenburgTassilo Schmitt o Brifysgol Bremen a Christiane Kunst o Brifysgol Osnabruck. Yn ogystal fe wnes i fwynhau un sesiwn yn arbennig gan Kate Jeremy, Prifysgol Rhydychen.

Roedd y pynciau’n amrywio o ddealltwriaethau damcaniaethol am ofod a lle, i sut y gallwn ddiffinio ffiniau a therfynau ym mhob haen o’r profiad dynol, o aelwydydd unigol i ymerodraethau mawr. Roedd

y trafodaethau dosbarth i gyd yn gyfeillgar, yn ddifyr ac yn sicr yn ysgogi’r meddwl.

Roedd yn brofiad unigryw i fod ar ynys hynod o hardd gyda grŵp o bobl o’r un bryd. Buom yn sgwrsio (a dadlau!) ar bob math o bethau. Mewn un sgwrs gofiadwy buom yn trafod themâu’r gynhadledd a geowleidyddiaeth yr 21ain ganrif ar draeth dan olau’r lloer yn oriau mân y bore!

Cawsom gyfle hefyd i archwilio ynys Juist. Aeth nifer ohonom i gerdded neu feicio o amgylch yr ynys, a bu rhai ohonom yn nofio ym Môr y Gogledd, oedd ddim mor oer ag y byddai rhywun wedi’i dybio!

Roeddem yn ffodus i gael tywyswyr gwych sef yr athrawon cadeiriol oedd yn adnabod yr ynys yn dda ac yn gallu dangos inni bopeth sydd ganddi i’w gynnig. Cawsom hyd yn oed ein seremoni te ein hunain, sy’n draddodiad yn Nwyrain Ffrisia.

Er gwaethaf y problemau a gawsom wrth geisio cyrraedd yno, roedd y gynhadledd yn sicr yn werth y daith.  Roedd yn brofiad gwirioneddol unigryw a gwerth chweil, ac roedd yn anrhydedd bod yn un o’r ddau fyfyriwr ffodus o’r Drindod Dewi Sant i fynychu’r gynhadledd.

Tagged with: ,

At UWTSD, we encourage our undergraduates and postgraduates to take every chance to attend academic conferences. In this post, we hear from Justin McLean about his and Troy Wilkinson’s experiences at ‘Defining Space: The Frontier in Ancient History’ in Germany last year.

In September, I attended ‘Defining Space: The Frontier in Ancient History,’ a summer school hosted by the University of Oldenburg, with my fellow Lampeter postgraduate student Troy Wilkinson.

The conference took place on the North Sea island of Juist, just off the picturesque coast of Lower Saxony.

We were fortunate to get there … and not only because it was a privilege to attend such a prestigious event.

Our trip did not have the most auspicious of starts. We travelled to Juist aboard a rocky ferryboat, and arrived in the dark and in the middle of a storm.

Wet, bedraggled and a little bit lost, we managed to trudge our way to a youth hostel before getting some well-earned sleep prior to the conference.

The next day we caught up with the other conference delegates, and it was a pleasure to meet such a thoroughly diverse and international troupe. Our group counted amongst its ranks British undergraduates and American PhD students, with Germans and Russians to boot.

Once underway, the conference featured an equally exciting mix of speakers.

I was fortunate to attend seminars hosted by world-leading professors like Michael Sommer of OldenburgTassilo Schmitt of the University of Bremen and the University of Osnabruck’s Christiane Kunst. I also particularly enjoyed one session featuring Kate Jeremy, University of Oxford.

The topics ranged from theoretical understandings of space and place through to how we might define borders and boundaries in all the strata of human experience, from individual households to great empires. The in-class discussions were all friendly, enjoyable and immensely thought-provoking.

It really was a one-off experience to be stranded on such a strangely beautiful island with a group of likeminded people. We talked (and argued!) on all manner of things. One memorable conversation debated the conference themes and 21st-century geopolitics on a moonlit beach in the early hours of the morning!

We also got a chance to explore Juist. Many of us took walks or cycled around the island, and some of us swam in the North Sea, which was not as cold as one might have thought!

We were lucky to have had excellent guides in the professors who knew the island well and could show us everything it had to offer, even stopping for our very own East Friesian tea ceremony.

Despite the problems we encountered getting there, the conference was thoroughly worth the trip.  It was a truly unique and worthwhile experience, and it was an honour to be one two UWTSD students lucky enough to attend.

 

 

 

 

Yn y blog hwn, mae Dr Ruth Parkes, Uwch Ddarlithydd yn y Clasuron, yn trafod materion cyfoes a godwyd yn ystod gweithgarwch dosbarth ar Hanes a Llenyddiaeth Rhufain y semestr diwethaf.

Roedd y lleisiau’n uchel a’r teimladau’n gryf yn ystod un o’m darlithoedd fis Rhagfyr diwethaf.  

Ar un adeg, clywais i rywun yn gofyn:  “Pam dylai rhywun o’r Dwyrain ddod draw atom ni yma?”

Unwaith eto, roedd mewnfudo’n amlwg yn bwnc dadleuol.

Sgwrs arall am Brexit wedi mynd o chwith?  Drwy drugaredd, na.

Y tro hwn, roedd y materion gwleidyddol a oedd yn y fantol yn ymwneud â Rhufain yr Hen Fyd yn hytrach na’r unfed ganrif ar hugain.

Roedd y myfyrwyr yn trafod y syniadau a hyrwyddwyd gan yr areithiwr Rhufeinig Cicero wrth amddiffyn Archias, yr athro a’r bardd Groegaidd, yn 62 CC.

Roedd Cicero (106 CC–43 CC) wedi mynd ati i amddiffyn Archias (c. 120 CC–61 CC) yn erbyn cyhuddiad nad oedd ef wedi cael dinasyddiaeth Rufeinig.

Petai wedi’i gael yn euog, byddai Archias wedi cael ei yrru allan o Rufain yn unol â lex Papia 64 CC.

Roedd y myfyrwyr wedi cael eu cyflwyno i syniadau Cicero yn ystod darlithoedd ar wleidyddiaeth blynyddoedd olaf y Weriniaeth yn fy modwl Lefel 4 Hanes a Llenyddiaeth Rhufain.

Yn rhan o’r asesiad ar gyfer y modwl, bu’r myfyrwyr yn actio naill ai ochr yr erlyniad neu ochr yr amddiffyn ar sail y deunydd yn araith gyfreithiol Cicero ‘Ar ran Archias’ (Pro Archia Poeta).

Cafodd y myfyrwyr flas ar y dasg, a phrofodd i fod yn ffordd wych o’u cyflwyno i rai o’r dadleuon gwleidyddol brwd yn Rhufain yr Hen Fyd.

Ar yr un pryd, wrth drafod syniadau Cicero gyda’r myfyrwyr, nid oedd  modd osgoi taro ambell i dant cyfoes.

Wrth amddiffyn Archias yn llwyddiannus, gwnaeth Cicero gryn ymdrech i ddadlau yn erbyn rhagfarn senoffobig yr oedd yr erlyniad yn ei ennyn yn erbyn y bardd a deallusyn Groegaidd o’r dwyrain.

Pwysleisiai Cicero werth Archias fel bardd a siaradai Groeg ac fel rhywun a ddarparai ddiwylliant, ar gyfer gwladwriaeth Rhufain ac ar gyfer dynolryw.   Yn y broses, dadleuai mai diwylliant yw’r cwlwm cyffredin sy’n cysylltu dynoliaeth.

Mae’n bosibl mai safiad rhethregol yn unig oedd hwn gyda’r nod o ennill yr achos cyfreithiol.  Er hynny, mae araith Cicero yn cynnwys nifer o syniadau digyfnewid.

Dadleuai dros y syniad o ddiwylliant heb ffiniau, ac o gydnabod dynoliaeth fel rhywbeth sy’n cael ei rhannu.  Wrth wneud hynny, cymerodd safiad yn erbyn rhetoreg “ni” a “nhw”.

Yn hyn o beth, mae amddiffyniad Cicero o Archias yn cynnig rhywbeth i gnoi cil yn ei gylch nid yn unig i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf Hanes yr Hen Fyd.

Yn hytrach, mae’i araith angerddol yn cyflwyno dadl glir yn erbyn ofn o’r ‘arall’ sy’n parhau i fod yn berthnasol ynghanol y cynnydd cyfredol o ran cenedlaetholdeb ac

In this blog, Dr Ruth Parkes, Senior Lecturer in Classics, discusses some contemporary issues that were raised during an in-class activity on Roman History and Literature last semester.

Voices were raised and passions ran high during one of my lectures last December.

At one point, I overheard someone ask: “Why should we have someone from the East coming over here?”

Yet again, immigration was proving a controversial topic.

Another Brexit conversation gone wrong? Mercifully not.

In this instance, the political issues at stake related to Ancient Rome rather than the twenty-first century.

Students were debating the ideas forwarded by Roman orator Cicero when defending the Greek teacher and poet Archias in 62BCE.

Cicero (106BCE–43BCE) had took it upon himself to defend Archias (circa 120BCE–61BCE) against a charge that he had not gained Roman citizenship.

If he had been found guilty, Archias would have been be expelled from Rome in accordance with the lex Papia of 64 BCE.

Students had been introduced to Cicero’s ideas during lectures on the politics of the late Republic in my Level 4 module Roman History and Literature.

As part of the module assessment, students acted out either the side of prosecution or defence based on the material in Cicero’s legal speech ‘On behalf of Archias’ (Pro Archia Poeta).

Students really took to the task, and it proved a great way of introducing them to some of the hot political debates in Ancient Rome.

At the same time, when discussing Cicero’s ideas with students, some contemporary resonances became unavoidable.

In successfully defending Archias, Cicero went to lengths to counter xenophobic prejudice being whipped up by the prosecution against the Eastern Greek poet and intellectual.

Cicero stressed the value of Archias, as a Greek-speaking poet and as a deliverer of culture, for both the Roman state and for mankind.  In the process, he argued that culture is the common bond which links humanity.

This may just have been a rhetorical stance designed to win the legal case. Even so, Cicero’s speech contains some timeless sentiments.

He argued for a notion of culture without borders, and of recognising shared humanity. In doing so, he positioned himself against a rhetoric of “them” and “us.”

As such, Cicero’s defence of Archias need not only offer food-for-thought for first-year Ancient History students.

Rather, his impassioned speech presents an articulate argument against fear of the ‘other’ that still has relevance amidst the current rise in nationalism and extremism worldwide.

Ym mis Tachwedd, mynychodd ôl-raddedigion PCYDDS gynhadledd Sefydliad Clasuron a Hanes yr Henfyd Prifysgol Cymru (UWICAH) yng Nghaerdydd. Yn y blog hwn, clywn oddi wrth Justin Mclean, sydd ar hyn o bryd yn astudio am radd Meistr yn y Celfyddydau yn Hanes yr Hen Fyd ar gampws Llambed

Cynhaliwyd Cynhadledd ôl-raddedig UWICAH eleni mewn ystafell hardd ym mhrif adeilad Prifysgol Caerdydd.

Mynychwyd y gynhadledd gan garfan amrywiol o fyfyrwyr ôl-raddedig a ddaeth o sefydliadau ar draws Cymru.

Ar wahân i’r ddirprwyaeth o Gaerdydd, y pedwar a fynychodd o Lambed oedd y fintai unigol fwyaf o’r prifysgolion.

Hyd yn oed yn fwy trawiadol am gampws bach oedd bod dau ohonynt yn cyflwyno papurau.

Cyflwynais innau bapur o’r enw ‘Finding the Silent Majority: Methodological and Philosophical Issues In Researching the Ancient “Working Class,” a Susan Leybourne, sy’n astudio am PhD yn y Clasuron a wnaeth un o’r enw ‘Understanding Mystical Experience In Ancient Texts.’

Roedd fy mhapur yn trafod materion ynghylch mynd at hanesion pobl gyffredin yn yr hen fyd, a sut mae ideoleg, cyd-destunau diwylliannol cyfredol a’r mathau o dystiolaeth sydd ar gael i haneswyr yn cyfuno i greu darlun sy’n bell o fod heb ei broblemau.

Disgrifiodd bapur Susan y cyffelybiaethau amrywiol rhwng traddodiadau gwahanol yn y ffordd y maent yn ceisio cyflwr llesmeiriol o fewn yr hen fyd.

Sbardunodd y ddau bapur hyn dipyn o drafodaeth, ynghyd â llawer o bapurau a sgyrsiau gwych eraill a gafwyd ar y diwrnod hwnnw. Bu Christopher Fleming a Troy Wilkinson yn ddau gynrychiolydd ardderchog o Lambed, yn aelodau astud o’r gynulleidfa ac yn awyddus i gymryd rhan mewn trafodaeth benigamp.

Roedd y prif gyflwyniad gan Yr Athro Lloyd Llewellyn-Jones ar Ffiol Eurymedon yn ein gorfodi ni i gyd i feddwl, gan roi i ni sawl ffordd newydd o weithio gyda phaentiadau ffiol yn ein hymchwil.

Ar ôl i bob papur gael ei gyflwyno, cynhaliwyd derbyniad gwin a gynhwysodd lawer o drafodaethau bywiog cyn i lawer ohonom fynd i gael cinio lle parhaodd y sgyrsiau am nifer o oriau.

Cynhadledd a drefnwyd yn wych ac a wnaeth i bawb feddwl oedd hon. Rwy’n siŵr fy mod yn siarad dros bawb a gymerodd ran pan ddwedaf ein bod yn edrych ymlaen at yr un nesaf.

 

In November, UWTSD postgraduates attended the Universities in Wales Institute of Classics and Ancient History (UWICAH) conference in Cardiff. In this blog, we hear from Justin Mclean, who is currently studying for a Master of Arts in Ancient History at Lampeter campus. 

This year’s UWICAH Postgraduate Conference was hosted in a beautiful room in the main building of Cardiff University.

The conference was well attended by a diverse compliment of postgraduate students from institutions around Wales.

Apart from the Cardiff delegation, the four UWTSD Lampeter attendees made up the largest single contingent from a university.

Even more impressive for a small campus was that two of them gave papers.

I gave a paper entitled ‘Finding the Silent Majority: Methodological and Philosophical Issues In Researching the Ancient “Working Class,” and Susan Leybourne, who is studying for a PhD in Classics, gave one entitled ‘Understanding Mystical Experience In Ancient Texts.’

My paper discussed issues around accessing the narratives of ordinary people in the ancient world, and how ideology, present-day cultural contexts and the types evidence available to historians combine to create a picture that is far from unproblematic.

Susan’s paper described the various commonalities between different traditions in the way they seek a trance-like state within the ancient world.

Both of these papers generated some debate, alongside many other fantastic papers presented and conversations had that day. Christopher Fleming and Troy Wilkinson were great delegates from Lampeter, attentive audience members and keen to take part in excellent discussion.

The keynote from Professor Lloyd Llewellyn-Jones on the Eurymedon Vase was thought provoking for all, giving us all many new ways of working with vase painting in our research.

After all the papers had been delivered, a wine reception was held which entailed much lively discussion before many of us headed off to dinner where the conversation continued for some hours.

This was an excellently-organised and thought-provoking conference. I am sure I speak for everyone involved when I say that we look forward to the next one.

  • Justin is pictured at the conference with fellow UWTSD postgraduates Troy Wilkinson, Christopher Fleming and Susan Leybourne.

Ym mis Hydref, campws Llambed oedd safle lansio llyfr newydd am Rufain a masnach Cefnfor yr India gan Dr Matthew Cobb, Darlithydd yn y Clasuron. Yn y blog hwn, mae Matt yn dweud wrthym ni am y llwybr a’i harweiniodd at ddilyn y pwnc diddorol hwn.

Ar 30 Awst eleni, cefais y boddhad o weld fy llyfr Rome and the Indian Ocean Trade from Augustus to the Early Third Century CE mewn print o’r diwedd.

Rwy’n gallu rhoi fy mys ar y cyfnod pan ddechreuais i ymddiddori yn y pwnc hwn.

Yn ôl yn nyddiau tywyll, pell canol y 2000au pan oeddwn i’n dal yn fyfyriwr israddedig, dewisais i gymryd modwl a oedd y tu allan i fy rhaglen astudio arferol (Hanes yr Hen Fyd).

Roedd y modwl yn ymwneud â chysylltiadau Ewrop yng Nghefnfor yr India yn y Cyfnod Modern Cynnar, gan rychwantu 1500-1800. O hynny ymlaen, roeddwn i wedi gwirioni.

I mi roedd y pwnc yn gyfareddol am nifer o resymau. Archwilion ni’r rhyngweithio rhwng pobloedd ag ieithoedd, diwylliannau a chrefyddau gwahanol a sut gwnaethon nhw ymdopi â gwahaniaethau o’r fath. Penbleth arbennig i mi oedd parodrwydd morwyr, marsiandwyr ac anturwyr i deithio pellteroedd mor fawr i gael gafael ar gynnyrch megis sbeisiau a phersawrau, gan ddod ar draws llawer o beryglon ar eu teithiau – rhai naturiol, megis stormydd peryglus, a rhai “o waith dyn”, megis môr-ladrata.

Es i â’r diddordeb hwn yng Nghefnfor yr India gyda mi pan ddechreuais fy PhD ym Mhrifysgol Abertawe ar ddiwedd y 2000au. Yn bersonol roedd y ddau beth yn bwnc pleserus i’w astudio – am fy mod i’n hoffi hanes economaidd a meddwl am ryngweithio trawsddiwylliannol.

Yn fonws ychwanegol, rhoddodd esgus i mi ymweld ag India tra oeddwn i’n dal i wneud fy PhD. Yn 2010, achubais ar y cyfle i ymweld â Chennai, Pondicherry a Kochi.

Rydw i wedi parhau â’r diddordeb hwn a’i ehangu dros y degawd diwethaf, sydd wedi arwain yn y pendraw at y llyfr rydw i wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar.

Mae’r llyfr yn archwilio datblygiad cyfnewid masnachol rhwng bydoedd Môr y Canoldir a Chefnfor yr India o adeg Rhufain yn cyfeddiannu’r Aifft (30 CC) hyd at ddechrau’r drydedd ganrif OC. Ymhlith y materion dan ystyriaeth mae hunaniaethau’r rheini oedd ynghlwm â

hyn, sut gwnaethon nhw eu trefnu a’u hariannu eu hun, yr heriau a’u hwynebai (amseru, logisteg, diogelwch, amodau hwylio), a’r mathau o nwyddau roeddent yn eu masnachu.

Gan dynnu ar gorpws cynyddol o dystiolaeth newydd, nod y llyfr yw ailasesu nifer o dybiaethau ysgolheigaidd hirdymor am natur cyfranogiad y Rhufeinwyr yn y fasnach hon. Mae’r rhain yn amrywio o’i datblygiad cronolegol i’w heffaith economaidd a chymdeithasol.

Edrychaf ymlaen at bawb yn ei ddarllen!

In October, Lampeter campus hosted the launch of a new book on Rome and the Indian Ocean trade by Dr Matthew Cobb, Lecturer in Classics. In this blog, Matt tells us about the path that led him to pursue this fascinating topic.

On 30 August this year, I had the satisfaction of finally seeing my book Rome and the Indian Ocean Trade from Augustus to the Early Third Century CE in print.

I can actually pinpoint the period when I first become interested in this subject.

Back in the dark, distant days of the mid-Noughties when I was still an undergraduate student, I elected to take a module that sat outside my normal programme of study (Ancient History).

The module was about European involvement in the Indian Ocean in the Early Modern period, spanning 1500–1800. From then on, I was hooked.

I found the subject fascinating for a number of reasons. We explored the interactions between peoples of different languages, cultures and faiths and how they coped with such differences. I was particularly intrigued by the willingness of sailors, merchants and adventures to travel such vast distances to acquire products like spices and aromatics, encountering many dangers on their voyages – both natural, like dangerous storms, and “man-made”, like piracy.

I took this interest in the Indian Ocean with me when I started on my PhD at Swansea University in the late Noughties. I personally found both an enjoyable topic to study – as I like economic history and thinking about cross-cultural interactions.

As an added bonus, it gave me an excuse to visit India while I was still doing my PhD. In 2010, I took the opportunity to visit Chennai, Pondicherry and Kochi.

I have continued and expanded this interest over the past decade, which has ultimately culminated in the book which I have recently had published.

The book itself explores the development of commercial exchange between the Mediterranean and the Indian Ocean worlds from the Roman annexation of Egypt (30 BCE) up to the early third century CE. Among the issues considered are the identities of those involved, how they organised and financed themselves, the challenges they faced (scheduling, logistics, security, sailing conditions), and the types of goods they traded.

Drawing upon an expanding corpus of new evidence, the book aims to reassess a number of long-standing scholarly assumptions about the nature of Roman participation in this trade. These range from its chronological development to its economic and social impact.

I look forward to everybody reading it!

Mae graddau yn y Dyniaethau yn denu cymysgedd amrywiol o bobl.  Yn y blog hwn, clywn gan Samantha Houston, a gwblhaodd radd MA mewn Astudiaethau Celtaidd yn y Drindod Dewi Sant yn ddiweddar.  Mae Samantha yn esbonio sut y bu iddi gyplysu dysgu o bell â (beth arall?!) gyrfa fel cystadleuydd rodeo.  

Roedd ennill gradd MA mewn Astudiaethau Celtaidd yn y Drindod Dewi Sant yn nodi cyflawni nod addysgol y dechreuais i ei ddilyn gyntaf pan oeddwn yn 19 oed. Mae Astudiaethau Arthuraidd yn fy nghyfareddu, ac ers hir byd rwyf wedi bod eisiau cyfuno hyn â fy mrwdfrydedd am ffilmiau, gwaith styntiau a rodeo.

Wrth i’r radd Meistr fynd rhagddi, roeddwn i’n teithio i rodeos ac yn marchogaeth ynddynt bron iawn bob penwythnos, ac yn aros yng Nghanada yn lle yn y DG.

Felly roedd yr opsiwn dysgu o bell yn ddewis ardderchog i mi am ei fod wedi caniatáu i mi orffen f’astudiaethau ar yr un pryd â gwneud rodeo’n llawn amser ar y penwythnosau.  Gwnes i hyn ar hyd pedair blynedd fy ngradd Meistr.

Wedi graddio, rwy’n dal i fynd ar gefn teirw, yn bennaf yn UDA bellach.  Mae nifer o daleithiau ar draws y wlad sy’n cynnig adrannau marchogaeth teirw i ferched, ac mae’r rhain yn caniatáu i ferched sy’n marchogaeth gystadlu am ein teitlau a byclau pencampwriaeth ein hun.

Mae’r lluniau hyn yn fy nangos ar gefn tarw bach du o’r enw Cherry Bomb, a’r bwcl gwregys a enillais yng Nghyfres Gaeaf 2018 Cwmni Rodeo Cross Over the Line, ym Moravia, Efrog Newydd.

Fyddwn i ddim yn newid y ffordd o fyw gyda’r rodeo am bris yn y byd ac rwy’n hapus iawn fy mod i wedi dod ar draws y Drindod Dewi Sant fel fy mod i’n gallu gwneud yn fawr o gyfleoedd academaidd ac athletaidd.

Humanities degrees attract a diverse mixture of people. In this blog, we hear from Samantha Houston, who recently completed an MA in Celtic Studies at UWTSD. Samantha explains how she twinned distance learning with (what else?!) a career as a rodeo competitor.

My MA in the Celtic Studies at UWTSD marked the completion of an educational goal that I first started pursuing when I was 19. I am fascinated by Arthurian Studies, and have long wanted to combine this with my passion for films, stunt work and rodeo.

As the Master’s degree progressed, I was travelling to and riding in rodeos nearly every weekend, and staying in Canada instead of the UK.

The distance learning option, then, was an excellent choice for me as it allowed me to finish my studies while still doing rodeo full-time on the weekends. I did this all four years during my Master’s.

Having graduated, I am still riding bulls, now primarily in the USA. There are several states across the country offering women’s bull riding divisions, and these allow women riders to compete for our own championship titles and buckles.

These pictures show me riding a little black bull named Cherry Bomb, and the belt buckle I won at the Cross Over the Line Rodeo Company Winter Series 2018, in Moravia, New York.

The rodeo lifestyle is something I would not change for the world and I am really happy that I found UWTSD so I could have the best of both academic and athletic opportunities.