Gwleidyddiaeth mewnfudo, 62 CC

Gwleidyddiaeth mewnfudo, 62 CC

Yn y blog hwn, mae Dr Ruth Parkes, Uwch Ddarlithydd yn y Clasuron, yn trafod materion cyfoes a godwyd yn ystod gweithgarwch dosbarth ar Hanes a Llenyddiaeth Rhufain y semestr diwethaf.

Roedd y lleisiau’n uchel a’r teimladau’n gryf yn ystod un o’m darlithoedd fis Rhagfyr diwethaf.  

Ar un adeg, clywais i rywun yn gofyn:  “Pam dylai rhywun o’r Dwyrain ddod draw atom ni yma?”

Unwaith eto, roedd mewnfudo’n amlwg yn bwnc dadleuol.

Sgwrs arall am Brexit wedi mynd o chwith?  Drwy drugaredd, na.

Y tro hwn, roedd y materion gwleidyddol a oedd yn y fantol yn ymwneud â Rhufain yr Hen Fyd yn hytrach na’r unfed ganrif ar hugain.

Roedd y myfyrwyr yn trafod y syniadau a hyrwyddwyd gan yr areithiwr Rhufeinig Cicero wrth amddiffyn Archias, yr athro a’r bardd Groegaidd, yn 62 CC.

Roedd Cicero (106 CC–43 CC) wedi mynd ati i amddiffyn Archias (c. 120 CC–61 CC) yn erbyn cyhuddiad nad oedd ef wedi cael dinasyddiaeth Rufeinig.

Petai wedi’i gael yn euog, byddai Archias wedi cael ei yrru allan o Rufain yn unol â lex Papia 64 CC.

Roedd y myfyrwyr wedi cael eu cyflwyno i syniadau Cicero yn ystod darlithoedd ar wleidyddiaeth blynyddoedd olaf y Weriniaeth yn fy modwl Lefel 4 Hanes a Llenyddiaeth Rhufain.

Yn rhan o’r asesiad ar gyfer y modwl, bu’r myfyrwyr yn actio naill ai ochr yr erlyniad neu ochr yr amddiffyn ar sail y deunydd yn araith gyfreithiol Cicero ‘Ar ran Archias’ (Pro Archia Poeta).

Cafodd y myfyrwyr flas ar y dasg, a phrofodd i fod yn ffordd wych o’u cyflwyno i rai o’r dadleuon gwleidyddol brwd yn Rhufain yr Hen Fyd.

Ar yr un pryd, wrth drafod syniadau Cicero gyda’r myfyrwyr, nid oedd  modd osgoi taro ambell i dant cyfoes.

Wrth amddiffyn Archias yn llwyddiannus, gwnaeth Cicero gryn ymdrech i ddadlau yn erbyn rhagfarn senoffobig yr oedd yr erlyniad yn ei ennyn yn erbyn y bardd a deallusyn Groegaidd o’r dwyrain.

Pwysleisiai Cicero werth Archias fel bardd a siaradai Groeg ac fel rhywun a ddarparai ddiwylliant, ar gyfer gwladwriaeth Rhufain ac ar gyfer dynolryw.   Yn y broses, dadleuai mai diwylliant yw’r cwlwm cyffredin sy’n cysylltu dynoliaeth.

Mae’n bosibl mai safiad rhethregol yn unig oedd hwn gyda’r nod o ennill yr achos cyfreithiol.  Er hynny, mae araith Cicero yn cynnwys nifer o syniadau digyfnewid.

Dadleuai dros y syniad o ddiwylliant heb ffiniau, ac o gydnabod dynoliaeth fel rhywbeth sy’n cael ei rhannu.  Wrth wneud hynny, cymerodd safiad yn erbyn rhetoreg “ni” a “nhw”.

Yn hyn o beth, mae amddiffyniad Cicero o Archias yn cynnig rhywbeth i gnoi cil yn ei gylch nid yn unig i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf Hanes yr Hen Fyd.

Yn hytrach, mae’i araith angerddol yn cyflwyno dadl glir yn erbyn ofn o’r ‘arall’ sy’n parhau i fod yn berthnasol ynghanol y cynnydd cyfredol o ran cenedlaetholdeb ac

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

*