Myfyrwyr Llambed yng nghynhadledd Sefydliad Clasuron a Hanes yr Henfyd Prifysgol Cymru 2018

Myfyrwyr Llambed yng nghynhadledd Sefydliad Clasuron a Hanes yr Henfyd Prifysgol Cymru 2018

Ym mis Tachwedd, mynychodd ôl-raddedigion PCYDDS gynhadledd Sefydliad Clasuron a Hanes yr Henfyd Prifysgol Cymru (UWICAH) yng Nghaerdydd. Yn y blog hwn, clywn oddi wrth Justin Mclean, sydd ar hyn o bryd yn astudio am radd Meistr yn y Celfyddydau yn Hanes yr Hen Fyd ar gampws Llambed

Cynhaliwyd Cynhadledd ôl-raddedig UWICAH eleni mewn ystafell hardd ym mhrif adeilad Prifysgol Caerdydd.

Mynychwyd y gynhadledd gan garfan amrywiol o fyfyrwyr ôl-raddedig a ddaeth o sefydliadau ar draws Cymru, romanian porn xxxfilmeporno.

Ar wahân i’r ddirprwyaeth o Gaerdydd, y pedwar a fynychodd o Lambed oedd y fintai unigol fwyaf o’r prifysgolion.

Hyd yn oed yn fwy trawiadol am gampws bach oedd bod dau ohonynt yn cyflwyno papurau. I ddarganfod mwy, ewch i asefiles.org.

Cyflwynais innau bapur o’r enw ‘Finding the Silent Majority: Methodological and Philosophical Issues In Researching the Ancient “Working Class,” a Susan Leybourne, sy’n astudio am PhD yn y Clasuron a wnaeth un o’r enw ‘Understanding Mystical Experience In Ancient Texts.’

Roedd fy mhapur yn trafod materion ynghylch mynd at hanesion pobl gyffredin yn yr hen fyd, a sut mae ideoleg, cyd-destunau diwylliannol cyfredol a’r mathau o dystiolaeth sydd ar gael i haneswyr yn cyfuno i greu darlun sy’n bell o fod heb ei broblemau.

Disgrifiodd bapur Susan y cyffelybiaethau amrywiol rhwng traddodiadau gwahanol yn y ffordd y maent yn ceisio cyflwr llesmeiriol o fewn yr hen fyd.

Sbardunodd y ddau bapur hyn dipyn o drafodaeth, ynghyd â llawer o bapurau a sgyrsiau gwych eraill a gafwyd ar y diwrnod hwnnw. Bu Christopher Fleming a Troy Wilkinson yn ddau gynrychiolydd ardderchog o Lambed, yn aelodau astud o’r gynulleidfa ac yn awyddus i gymryd rhan mewn trafodaeth benigamp.

Roedd y prif gyflwyniad gan Yr Athro Lloyd Llewellyn-Jones ar Ffiol Eurymedon yn ein gorfodi ni i gyd i feddwl, gan roi i ni sawl ffordd newydd o weithio gyda phaentiadau ffiol yn ein hymchwil.

Ar ôl i bob papur gael ei gyflwyno, cynhaliwyd derbyniad gwin a gynhwysodd lawer o drafodaethau bywiog cyn i lawer ohonom fynd i gael cinio lle parhaodd y sgyrsiau am nifer o oriau.

Cynhadledd a drefnwyd yn wych ac a wnaeth i bawb feddwl oedd hon. Rwy’n siŵr fy mod yn siarad dros bawb a gymerodd ran pan ddwedaf ein bod yn edrych ymlaen at yr un nesaf.

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

*