Adolygiad o Gynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig Ryngddisgyblaethol 2018 gan Thomas Humphrey, ymgeisydd PhD ym maes Archaeoleg Cyprus

Adolygiad o Gynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig Ryngddisgyblaethol 2018 gan Thomas Humphrey, ymgeisydd PhD ym maes Archaeoleg Cyprus

Ar 24 Ebrill, daeth myfyrwyr ôl-raddedig o amrywiol gampysau a chyfadrannau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ynghyd ar ddiwrnod glawog yn Abertawe i rannu eu hymchwil cyfredol ar ystod eang o destunau, yn amrywio o brosesau gweithgynhyrchu ar gyfer mewnblaniadau meddygol ac archaeoleg, i ymrwymiad gweithwyr.  Yn sgil yr ystod amrywiol o bynciau a drafodwyd, cafodd pob un ohonom oedd yn cymryd rhan yn y digwyddiad gyfle i weld pa fath o ymchwil sy’n cael ei gynnal yn y Brifysgol y tu hwnt i’n gweithgareddau academaidd ni ein hunain.  Roedd yn ddigwyddiad rhagorol (gan gynnwys bwyd am ddim!) ac roedd yn ffordd wych o fentro’n raddol i’r byd brawychus o roi cyflwyniadau a siarad yn gyhoeddus mewn cynadleddau, a hynny mewn amgylchedd cyfeillgar,  croesawgar.  Dysgais gryn dipyn o’r digwyddiad, o ran y math o ymchwil sy’n cael ei wneud a’r dulliau a ddefnyddir ar draws y brifysgol ehangach, ond hefyd o ran cyflwyno a siarad mewn ystafell llawn pobl.  Gellir crynhoi’r hyn a ddysgais yn gryno fel a ganlyn:

  1. Peidiwch â threulio eich holl amser yn ymchwilio i’ch testun/gwneud gwaith arall/llusgo’ch traed gan adael y gwaith ysgrifennu tan y funud olaf un.

1a. Peidiwch â gorffen ysgrifennu eich cyflwyniad yn ystod eich taith ddwy awr ar y bws i’r lleoliad.

  1. Mae creu sleidiau PowerPoint yn anodd – faint o destun a ystyrir yn ormod? yn enwedig am 10 o’r gloch y noson cynt a chithau’n dal i fod heb ysgrifennu eich astudiaeth achos
  2. Cofiwch ymarfer eich cyflwyniad, rhag ofn i chi wneud cawlach o bethau (mae cael copi printiedig hefyd yn fonws, yn hytrach na darllen oddi ar liniadur)

Mae’r awgrymiadau hyn yn rhai weddol syml ac amlwg, yr oeddwn i’n eu gwybod yn iawn ymlaen llaw, ond does dim byd tebyg i brofiad er mwyn dysgu gwers i chi.  O ddifrif, mae paratoi yn hanfodol, a sylwais i ar y gwahaniaeth rhwng pa mor gysurus oeddwn i o flaen cynulleidfa fach, a pha mor gysurus oedd pawb arall.  Er na fyddwn i’n dweud fy mod i wedi tan-baratoi, byddwn i yn gwneud rhai pethau’n wahanol, ond o gofio mai dyma fy nghynnig cyntaf ar gyflwyno papur cynhadledd rwy’n meddwl i bethau fynd yn eithriadol o dda, a byddaf yn gwella eto gyda rhagor o brofiad.

Roedd y cyfle i gael ymdeimlad o’r hyn roedd ymchwilwyr eraill yn ei wneud hefyd yn wych, oherwydd mae’n rhy hawdd o lawer bod yn unllygeidiog gan ganolbwyntio ar eich astudiaethau chi ac anwybyddu popeth arall with these easy tips.  Mae bob amser yn beth da cael cyfle i fentro allan y tu hwnt i furiau eich cyfadran, campws neu lyfrgell ac ail-gyfarwyddo â chymuned ymchwil y brifysgol ehangach.

Roedd y gynhadledd yn ddifyr iawn wrth wrando a siarad ag ymchwilwyr ôl-raddedig mewn meysydd eraill, ac rwy’n ddiolchgar tu hwnt am y cyfle i gymryd rhan ac i Dr Huw Millward a Nicola Powell am drefnu’r diwrnod.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

*