MA mewn Astudiaethau Celtaidd (a Rodeo!)
Mae graddau yn y Dyniaethau yn denu cymysgedd amrywiol o bobl. Yn y blog hwn, clywn gan Samantha Houston, a gwblhaodd radd MA mewn Astudiaethau Celtaidd yn y Drindod Dewi Sant yn ddiweddar. Mae Samantha yn esbonio sut y bu iddi gyplysu dysgu o bell â (beth arall?!) gyrfa fel cystadleuydd rodeo.
Roedd ennill gradd MA mewn Astudiaethau Celtaidd yn y Drindod Dewi Sant yn nodi cyflawni nod addysgol y dechreuais i ei ddilyn gyntaf pan oeddwn yn 19 oed. Mae Astudiaethau Arthuraidd yn fy nghyfareddu, ac ers hir byd rwyf wedi bod eisiau cyfuno hyn â fy mrwdfrydedd am ffilmiau, gwaith styntiau a rodeo.
Wrth i’r radd Meistr fynd rhagddi, roeddwn i’n teithio i rodeos ac yn marchogaeth ynddynt bron iawn bob penwythnos, ac yn aros yng Nghanada yn lle yn y DG.
Felly roedd yr opsiwn dysgu o bell yn ddewis ardderchog i mi am ei fod wedi caniatáu i mi orffen f’astudiaethau ar yr un pryd â gwneud rodeo’n llawn amser ar y penwythnosau. Gwnes i hyn ar hyd pedair blynedd fy ngradd Meistr.
Wedi graddio, rwy’n dal i fynd ar gefn teirw, yn bennaf yn UDA bellach. Mae nifer o daleithiau ar draws y wlad sy’n cynnig adrannau marchogaeth teirw i ferched, ac mae’r rhain yn caniatáu i ferched sy’n marchogaeth gystadlu am ein teitlau a byclau pencampwriaeth ein hun.
Mae’r lluniau hyn yn fy nangos ar gefn tarw bach du o’r enw Cherry Bomb, a’r bwcl gwregys a enillais yng Nghyfres Gaeaf 2018 Cwmni Rodeo Cross Over the Line, ym Moravia, Efrog Newydd.
Fyddwn i ddim yn newid y ffordd o fyw gyda’r rodeo am bris yn y byd ac rwy’n hapus iawn fy mod i wedi dod ar draws y Drindod Dewi Sant fel fy mod i’n gallu gwneud yn fawr o gyfleoedd academaidd ac athletaidd.
Leave a Reply