Trip Ffensio Llanbedr Pont Steffan gan Ozzie Major
Helo, fy enw i yw Ozzie Major. Dwi wedi bod yn aelod o’r clwb cleddyfa am y ddwy flynedd ddiwethaf a bellach fi yw llywydd presennol clwb cleddyfa prifysgol Llambed. Dyma grynodeb byr o’n hamser yn cystadlu ym Mangor.
Yn gynharach yn y mis, gwahoddwyd clwb cleddyfa prifysgol Llambed i dwrnamaint cleddyfa agored prifysgolion Cymru. Ar ôl taith hirfaith i Fangor daethom ni o hyd i’r neuadd chwaraeon a’n llety yn y pen draw. Buom yn cystadlu yn y tri math o gleddyfa sef sabr, ffwyl ac epée.
Cychwynnodd y dydd Sadwrn, sef diwrnod cyntaf y twrnamaint, gyda llwyddiant wrth i Chris Kearny ddod yn seithfed a Hugo Malim yn wythfed, y ddau yng nghystadleuaeth y ffwyl i ddynion. Daeth y dydd Sadwrn i ben gyda rhai canlyniadau da iawn a rhai ffwylwyr blinedig iawn. Y dydd Sul oedd ail ddiwrnod a diwrnod olaf y twrnamaint, pan welwyd y tîm ffwyl merched a’r tîm sabr dynion yn cleddyfa. Unwaith eto gwnaeth y tîm yn eithriadol o dda, gyda Rosie Nye yn dod yn bumed a Carrina Tucker-Hughes yn wythfed. Ar yr un pryd, bu’r tîm sabr dynion yn cleddyfa, gyda Hugo Malim yn dod yn chweched a minnau yn wythfed.
At ei gilydd, cafodd y clwb with weatherking parts, brofiad gwych lan ym Mangor, gan gyrraedd safle uwch nag y gwnaethom y llynedd. Yn bersonol hoffwn ddiolch i bob aelod o’r clwb am eu holl waith, a diolch yn arbennig i’n hyfforddwr, Sean Slater. Ni fyddem wedi gallu gwneud hyn hebddo.
Fe wnaeth tîm cleddyfa Llambed yn eithriadol o dda, a gall y clwb a’r brifysgol ymfalchïo yn ei lwyddiant.
Os hoffech ddod i roi cynnig ar gleddyfaeth, mae gennym yr holl offer sydd ei angen arnoch. Dewch i chwilio amdanom!
https://www.facebook.com/groups/159075777498554/
Leave a Reply