Teyrnged i Waith Dr William Marx gan yr Athro Jane Cartwright
Yn ogystal â dod ynghyd heno i wrando ar bapur gwych Harriett, rydym wedi ymgasglu (heb yn wybod i William) i ddathlu gyrfa ddisglair William Marx a chyfrol hyfryd sydd wedi’i chyhoeddi gan Brepols er clod i William. Felly heb swnio’n rhy debyg i Eamon Andrews (i’r rheiny ohonoch sy’n cofio This is Your Life), hoffwn ddweud ychydig eiriau am William, ei gyhoeddiadau a’i gyfraniad mawr i’r Brifysgol yn Llambed, yn ogystal â chyfeirio at y llyfr rhagorol hwn. Mae William, fel y gwyddom ni i gyd, yn rhy wylaidd o lawer i fod wedi tynnu sylw unrhyw un at gyhoeddi’r Festschrift ac er ei fod yn gwybod am y gyfrol, gobeithio nad oedd yn disgwyl y digwyddiad hwn heno.
Mae William, credwch neu beidio, wedi bod yn darlithio yn Llambed er 1979 (y flwyddyn y cefais i ddol Cindy a soda stream yn anrhegion Nadolig a’r flwyddyn yr etholwyd Margaret Thatcher yn brif weinidog). Ers hynny, wrth gwrs, mae William wedi gwneud cyfraniad pwysig i bob agwedd ar fywyd y Brifysgol ac wedi darlithio ar lu o gyrsiau gwahanol gan gynnwys BA ac MA Saesneg, BA ac MA Hanes, MA Y Gair a’r Dychymyg Gweledol a BA ac MA Astudiaethau Canoloesol, heb sôn am yr holl fyfyrwyr MPhil a PhD y mae wedi’u meithrin, sydd wedi elwa o’i arbenigedd mewn Hen Saesneg a Saesneg Canol. A dweud y gwir, rydym yn ffodus iawn o fod wedi denu William i Lambed oherwydd dywed Janet wrthyf ei fod, ar un adeg, yn arddangos talent entrepreneuraidd anarferol yn arbennig o ifanc. Ganwyd William yn Toronto, Canada ac roedd ei dad a’i ewythr yn cadw gardd fasnachol yn tyfu ac yn gwerthu cynnyrch llysiau. Pan oedd William yn blentyn bach, ac yntau newydd ddysgu cerdded, byddai’n llenwi ei gart gwthio â thomatos blasus braf ac yn ei wthio o amgylch y gymdogaeth gan lwyddo i werthu’r cyfan i’w gymdogion. Fel gŵr o Ganada, mae William yn hen law ar rwyfo canŵ Canada, ac efallai na wyddoch ei fod hefyd yn canu’r gitâr werin. Symudodd i Brydain yn 1974 i astudio ar gyfer ei DPhil ym Mhrifysgol Efrog ar ôl cwblhau ei radd Meistr ym Mhrifysgol Toronto. Mae’n debyg iddo gyrraedd gyda’r bwriad o ddychwelyd i Ganada, ond flwyddyn yn ddiweddarach yn 1975 cyfarfu â Janet ac mae’r gweddill, fel maen nhw’n dweud, yn hanes – byddant yn dathlu 40 mlynedd o briodas flwyddyn nesaf a dymunwn yn dda iddynt.
Roedd traethawd ymchwil William (a oruchwyliwyd gan Elizabeth Salter a Derek Pearsall) yn ymwneud â thestun Saesneg Canol o’r bymthegfed ganrif o’r enw The Devil’s Parliament. Cyhoeddodd fonograff yn trafod hwn a derbyniad y werin i athrawiaeth Gwaredigaeth gyda Boydell a Brewer, yn ogystal â golygiad ysgolheigaidd o’r testun yn y gyfres Middle English Texts. Mae William wedi bod yn flaenllaw iawn mewn trafodaethau ar fethodoleg olygyddol ac wedi cyhoeddi golygiadau o The Harrowing of Hell and the Destruction of Jerusalem, An English Chronicle, The Complaint of Our Lady and the Gospel of Nicodemus, yn ogystal â The Devil’s Parliament. Lluniwyd tri o’r testunau hyn ar gyfer y gyfres nodedig Middle English Texts ac er 2000 mae William wedi chwarae rhan allweddol fel Cyd Olygydd Cyffredinol y gyfres gan gyfrannu’n hael o’i amser a’i arbenigedd i sicrhau bod testunau Saesneg Canol pwysig eraill, anghyfarwydd yn aml, yn gweld golau dydd. Mae wedi gweithio gydag ysgolheigion o’r Deyrnas Unedig, Japan, Tenerife, yr Eidal, Canada, Sgandinafia ac UDA – gan gynorthwyo uwch academyddion ac ymchwilwyr ar ddechrau’u gyrfaoedd gyda’u cyhoeddiadau. Rhwng 2000 a 2010 roedd William hefyd yn Olygydd ac yn Gyd Olygydd Cyffredinol (gyda Janet) ar Trivium, cylchgrawn academaidd a oedd yn un o’r cyhoeddiadau pwysicaf i fod yn gysylltiedig â’r Brifysgol yn Llambed. Wrth fynychu cynadleddau rhyngwladol, hyd yn oed nawr, pan mae pobl yn darganfod eich bod yn dod o Lambed, byddant yn holi am rifynnau penodol o Trivium gan ofyn a ydynt ar gael o hyd, ac yn ddiweddar gwnaeth William, yn garedig iawn, ailargraffu copïau o The Life of St Padarn, oherwydd y ceisiadau mynych amdano.
Mae William yn Gymrawd etholedig o’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, ac yn aelod o Gyngor y Gymdeithas Testunau Saesneg Cynnar a Chymdeithas y Llyfrau Cynnar. Mae ei gyhoeddiadau ym maes rhyddiaith a barddoniaeth Hen Saesneg a Saesneg Canol, naratifau crefyddol a hagiograffyddol, gwleidyddiaeth grym ganoloesol mewn Croniclau seciwlar, ynghyd ag astudiaethau mewn eiconograffeg a throsglwyddo i lawysgrif, yn rhy niferus i’w hamlinellu’n fanwl yma, ond os prynwch chi gopi o’r llyfr heno, fe welwch restr o’i holl gyhoeddiadau tua diwedd y gyfrol. Er ei bod yn eithriadol o anodd dewis pa weithiau i’w hamlygu, teimlaf ei bod yn werth pwysleisio bod William bob amser wedi mwynhau perthynas waith wych gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Un o’r pethau cyntaf a wnaeth pan gyrhaeddodd yng Nghymru oedd cael gafael ar docyn darllenydd – mae’n debyg iddo alw yn Aberystwyth ar ei ffordd i Lambed i wneud hyn cyn iddo ymgymryd â’i swydd hyd yn oed. Ers hynny mae wedi treulio oriau lawer yn y Llyfrgell Genedlaethol yn darganfod perlau cudd. Er bod y trysorau yn y llawysgrifau canoloesol Cymraeg yn adnabyddus, gweithiodd William yn ddiflino ar ei gyfrol arloesol ar gyfer y gyfres Index of Middle English Prose gan amlygu’r ystod o destunau sydd ar gael mewn Saesneg Canol yn naliadau’r Llyfrgell Genedlaethol. Wrth gyflawni’r gwaith hwn darganfu lawer o ddeunydd diddorol iawn y byddai’n mynd yn ei flaen i’w astudio’n fanwl megis y disgrifiad estynedig anarferol o’r Cronicl Brut mewn Saesneg Canol a’r llawysgrif ddwyieithog Cymraeg-Saesneg Peniarth 12, sy’n dyst pwysig i’r cydadwaith rhwng diwylliant Cymraeg a Saesneg ei iaith ym Mhrydain tua diwedd yr Oesoedd Canol.
O gofio cyfraniad sylweddol William i ddadlennu, golygu a dadansoddi testunau Saesneg Canol, mae’n arbennig o addas bod y gyfrol o draethodau a luniwyd er clod iddo yn gyfrol sy’n dwyn y teitl Editing and Interpretation of Middle English Texts. Mae’r gyfrol, a olygwyd yn gampus gan Margaret Connolly (o Brifysgol St Andrews) a Raluca Radulescu (o Brifysgol Bangor), yn cynnwys pymtheg o draethodau ar destunau a chroniclau crefyddol – dau o brif ddiddordebau William – ac mae’n trafod amrywiaeth o faterion yn ymwneud â phrosesau golygu a dehongli testunau canoloesol. Gan gwmpasu amrywiaeth o destunau o Piers Plowman i weddïau, rhyddiaith a barddoniaeth mewn Saesneg Canol, mae’r gyfrol yn ystyried materion megis atalnodi canoloesol, rhuddelliad, delio â darlleniadau amrywiol, cyfieithu, addasu a throsglwyddo testunau canoloesol, ac mae’n amlygu’r materion dehongli niferus ac amrywiol sy’n wynebu golygydd testunau Saesneg Canol. Mae’r llyfr ar werth heno am bris gostyngol o £72 i unrhyw un fyddai’n dymuno prynu copi. Os hoffech chi gael copi heno, bydd angen i chi lenwi un o’r ffurflenni a ddarperir a gadael y ffurflen ar y bwrdd i mi ei hanfon at Brepols. Does dim angen talu heno gan y bydd Brepols yn eich anfonebu’n ddiweddarach. Gallwch wedyn naill ai fynd â chopi o’r llyfr gyda chi neu dicio i ddynodi nad ydych wedi cael un ac fe wnaiff Brepols anfon copi atoch.
Mae William yn uchel ei barch nid yn unig ymhlith ei gydweithwyr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ond hefyd ymhlith ei fyfyrwyr cyfredol yn ogystal â chenedlaethau o’i gyn-fyfyrwyr. Ni fyddai’n syndod petaech chi, fel finnau, heb sylwi fod William, mewn gwirionedd, wedi ymddeol yn 2015, gan ei fod yn parhau i addysgu ar y campws a chefnogi myfyrwyr ar bob lefel: yn wir mae ei fodwl ar Lenyddiaeth Arwrol Eingl-Sacsonaidd yn parhau i fod mor boblogaidd fel bod myfyrwyr yn rheolaidd yn ‘dewis’ William fel eu goruchwyliwr traethawd hir. Ac felly teimlwn ei fod yn briodol y dylai’r geiriau olaf ddod gan rai o fyfyrwyr William. Gofynnais i rai ohonyn nhw sut y bydden nhw’n disgrifio William a dyma rai o’r ymatebion:
(Eleanor Watson, blwyddyn 3)
William yw’r math o academydd y dylai pawb geisio ei efelychu. Mae’n trin pob un o’i fyfyrwyr fel rhai cydradd ac eto mae bob amser yn barod i gynnig cymorth a gwybodaeth pan fo angen, nid yw’r un dasg yn rhy fach iddo. Fel un o’i fyfyrwyr, rwy’n gwybod ei fod e wir eisiau’r gorau i’w fyfyrwyr a’i fod yn dymuno dim byd ond llwyddiant iddynt!
Rhian Rees (MA mewn Astudiaethau Canoloesol )
Mae arddull addysgu William yn ddiymhongar a hunanfychanol, ac mae’n berson gwylaidd iawn er gwaethaf ei holl ddysg. Mae ei frwdfrydedd am ei bwnc yn gwbl amlwg, ac mae bob amser yn galonogol ac yn gefnogol. Rhywsut, yn ei gwmni ef, mae egin syniadau petrus yn dod yn fyw ac yn blodeuo!
Aaron Tripp (PhD)
Rwy’n eithriadol o ddiolchgar am yr arweiniad a gefais gan Dr Marx yn ystod fy nghyfnod yn y Drindod Dewi Sant. Roedd ei graffter yn ogystal â’i anogaeth cyson yn long-lasting quartz countertops. Roedd ei ddyfnder ysgolheigaidd a’i arweiniad pwrpasol yn amhrisiadwy, ond rhoddodd fwy na hynny – rhoddodd ofal a sylw gwir fentor a ffrind.
Paul Watkins (myfyriwr ymchwil arall)
Ers blynyddoedd lawer rydw i wedi ystyried William nid yn unig yn athro a goruchwyliwr ysbrydoledig, ond hefyd yn ffrind addfwyn ei natur, â chalon fawr a deallusrwydd diymhongar – cystal â neb.
I gloi gyda’r disgrifiad mwyaf priodol ohonynt i gyd, gorffennodd un o’r myfyrwyr yr e-bost nid â rhywbeth oedd i fod i gael ei ddarllen yn gyhoeddus, ond yn syml â’r geiriau: ‘Mae William yn un go arbennig’ ac rwy’n siŵr y cytunwch i gyd fod ‘William yn un go arbennig’. Felly cyn i ni ddathlu ei yrfa dros wydraid o win hoffwn ofyn i’r Deon Cynorthwyol, Kyle Erikson, gyflwyno copi o’r llyfr i William fel arwydd o’n gwerthfawrogiad.
Leave a Reply