Mynychu’r Gymdeithas ar gyfer Ysgrifennu Saesneg yn Saesneg (AWWE) gan Mary Bowen-Perkins (BA mewn Saesneg a Hanes)

Mynychu’r Gymdeithas ar gyfer Ysgrifennu Saesneg yn Saesneg (AWWE) gan Mary Bowen-Perkins (BA mewn Saesneg a Hanes)

Yn gynharach yr haf hwn ces i gyfle i fynd i drydedd gynhadledd ar ddeg Cymdeithas Llên Saesneg Cymru (AWWE).  Cynhaliwyd y gynhadledd yn Neuadd Gregynog, plasty gwledig hardd ger y Drenewydd. Roeddwn i wedi clywed gan ffrindiau a oedd wedi ymweld o’r blaen am harddwch Gregynog, ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor drawiadol oedd y lle mewn gwirionedd. Tra roeddwn i yn y gynhadledd, treulies i gyfran dda o’m hamser i yn archwilio’r tir a’r neuaddau, y mae’n werth ymweld â nhw ynddyn nhw eu hunain.

Wedi dweud hynny, cynhadledd AWWE oedd y rheswm pam roedd y rhan fwyaf o bobl a oedd yn ymweld â Gregynog yno yn y lle cyntaf. Trefnwyd cynnal y gynhadledd dros dridiau, gan ddechrau ar ddydd Gwener a dod i ben ar ddydd Sul. Thema cynhadledd 2018 oedd ‘Cartref’, ac roedd rhaid i’r holl bapurau a’r perfformiadau ymwneud â’r pwnc hwn mewn rhyw fodd. Agorodd y diwrnod cyntaf gyda’r cyfarfod cyffredinol blynyddol, yn dilyn prif ddarlith agoriadol gan yr Athro Bella Dicks, pennaeth ymchwil yn  yr Amgueddfa Genedlaethol. Yn dilyn hyn cynhaliwyd lansiad y llyfr Creed gan Margiad Evans, a gyhoeddwyd gan Wasg Honno, a llyfr newydd a olygwyd gan yr Athro Jane Aaron, Cambria Gothica. Yn dilyn swper, cawsom berfformiad o ‘An Extradordinary Female Affection: At Home with the Ladies of Llangollen’ gan Living Histories Cymru, mudiad sy’n dod â straeon pobl LGBT o gwmpas Cymru a’r gororau yn  fyw. Yn yr hwyr, cynhaliwyd siop lyfrau symudol, a werthai lyfrau gan wahanol awduron o Gymru – gan gynnwys nifer a oedd yn dod i’r gynhadledd.

Llenwyd y deuddydd nesaf yn bennaf â sesiynau cyfochrog o anerchiadau, wedi eu grwpio mewn panelau o ddau neu dri o bobl, yn ôl pynciau eu papurau. Doeddwn i ddim yn gallu mynd i’r holl drafodaethau panel, gan fod llawer o’r rhain yn digwydd ar yr un pryd, ond roedd y rhai a weles i wedi eu cyflwyno’n dda ac yn ddiddorol dros ben.  Rhai o’m ffefrynnau i oedd cyflwyniad Aiden Byrne, ‘“Baron of Beef”: Foreigners, Interlopers, Homes and Domesticity in Welsh Writing in English’ ac Amber Hancock ‘Historic Parkouring with Raymond Williams: Orientating One’s Identity at Home within People of the Black Mountains’. I unrhyw un sydd â diddordeb yn ochr academaidd llên Saesneg Cymru, roedd y gynhadledd yn ddigwyddiad llawen sêr. A minnau wedi gwneud sawl aseiniad ar lên Saesneg Cymru, dyna fraw oedd dod ar draws pobl yr oeddwn i wedi eu dyfynnu mewn lleoliad mor anffurfiol, megis yr ystafell de neu’r toiledau. Eto i gyd, ni waeth beth oedd eu statws proffesiynol neu lefel addysg, roedd pawb y bues i’n sgwrsio â nhw yn hynod o groesawgar, top-rated moving companies.  Er fy mod i’n fyfyriwr israddedig mewn ystafell llawn meddygon, athrawon ac ymgeiswyr PhD, ches i erioed y teimlad o dresmasu. I’r gwrthwyneb, gallu siarad â phobl sydd wedi treulio gyrfa hir yn y maes academaidd oedd un o brofiadau gorau’r gynhadledd. Roedd gallu siarad â phobl sydd â gwybodaeth ac – yn bwysicach – brwdfrydedd am eu pwnc yn wefreiddiol view.

Roedd cynhadledd flynyddol AWWE yn llawenydd pur. Roedd y lleoliad yn hyfryd, y bobl yn groesawgar, a’r papurau’n wybodus. Roedd mynd i AWWE – neu, o bosibl, unrhyw gynhadledd ar y lefel hon – yn brofiad y byddwn i’n ei argymell yn fawr i fyfyrwyr eraill yn Y Drindod Dewi Sant, os cân nhw gyfle i fynd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

*