Ar drywydd hanes tai (a gorilaod!) yn Stockholm
Mae’r darn blog hwn gan Dr Alexander Scott, Darlithydd mewn Hanes Modern, a gyflwynodd ei ymchwil ar dai’r 20fed ganrif mewn cynhadledd yn Stockholm ym mis Medi.
Un o’r pethau gorau am fod yn academydd yw cael cyfle i fynd i gynadleddau mewn lleoedd ffansi, diddorol.
I’r rhan fwyaf o bobl, ni fyddai ystâd o dai o’r cyfnod wedi’r rhyfel yn cyfrif fel rhywbeth ffansi na diddorol.
Ond i ysgolheigion fel fi sy’n gwneud ymchwil ar bolisi tai’r 20fed ganrif, roedd y cyfle i siarad mewn cynhadledd a gynhaliwyd ym maestref Tensta yn Stockholm yn rhywbeth na ellid ei golli. Wedi’i threfnu gan Brifysgol Stockholm a’r Gymdeithas Astudiaethau Trefol Llenyddol, roedd y gynhadledd ‘Large-Scale Housing Projects as Productive Space in Literature and Culture’ yn archwilio ymatebion i gynlluniau tai torfol ar draws Ewrop a Gogledd America.
Archwiliodd cyflwyniadau cynadleddwyr ddisgrifiadau llenyddol o ystadau tai mewn amryw o ddinasoedd, yn cynnwys Helsinki (e.e. Concrete Night gan Pirkko Saisio, 1981), Berlin (Christiane F, We the Children of Banhof Zoo, 1978) a Stockholm (John Ajvide Lindqvist, Let the Right One In, 2004). Roedd papurau hefyd wedi archwilio materion cymdeithasol-wleidyddol ehangach. Er enghraifft, www.xn--lnepengar-52a.se/ roedd archwiliad o realiti a myth bywyd yn Pruitt-Igoe – prosiect tai yn St Louis, Missouri a ysbrydolodd linell enwog Charles Jenks y bu i bensaernïaeth fodernaidd “farw” pan gafodd ei ddymchwel yn 1972.
Canolbwyntiai fy nghyfraniad i’r gynhadledd ar wleidyddiaeth tai yn Lerpwl. Yn gyntaf edrychodd ar y blociau tŵr uchel iawn a pholisïau gwasgaru ynghanol y ddinas a gynigiwyd fel atebion i argyfyngau tai’r 1940au-1960au, ac yn ail, yr adwaith yn erbyn y status quo hwn gan lywodraeth ganol a lleol yn y degawdau dilynol.
Ystyriaethau ynghylch Tensta
Roedd Tensta yn lleoliad priodol i ystyried pethau o’r fath. A hithau wedi’i lleoli wyth milltir i’r gogledd-orllewin o ganol Stockholm, roedd Tensta yn un o’r ystadau a adeiladwyd yn ystod y Rhaglen Filiwn 1965-1974 – prosiect uchelgeisiol a geisiai ailgartrefu tuag un rhan o wyth o boblogaeth Sweden. Mae’i chysylltiad â phrosiect mor fawr gan y wladwriaeth yn cysylltu Tensta yn annileadwy â gwleidyddiaeth Democratiaeth Gymdeithasol yn Sweden – er gallai rhywun yn hawdd gamgymryd ei phensaernïaeth goncrid am rywle tebyg i Kirkby, Glannau Mersi!
Yn ogystal â thaflu goleuni ar hanes wedi’r rhyfel, roedd lleoliad y gynhadledd yn taro tant cyfoes.
A hwythau’n gartref i boblogaeth â nifer mawr o fewnfudwyr, yn ddiweddar mae maestrefi megis Tensta wedi bod yn destun stereoteipio negyddol gan Ddemocratiaid Sweden – y blaid adain dde a gynyddodd ei phleidleisiau mewn etholiadau cenedlaethol diweddar.
Er yn amlwg ni all ymweliad un diwrnod roi darlun llawn, eto roedd datgysylltiad annifyr rhwng y rhetoreg wleidyddol a f’argraffiadau am Tensta. Roedd y trigolion yn groesawgar iawn i’n mewnlif rhyfedd o academyddion tramor pan aethom ar daith o gwmpas yr ystâd, a chyflwynodd trefnwyr y gynhadledd ni i artistiaid y mae’u gwaith wedi’i osod y tu fewn i’r ganolfan siopa newydd. Hefyd roedd y prydau bendigedig o Ddwyrain Affrica a weiniwyd yn Tensta Konsthall yn codi cywilydd ar ‘frechdan gyrliog’ safonol y gynhadledd!
Cyffes Gîc Amgueddfeydd
Roedd taith y gynhadledd hefyd wedi rhoi cyfleoedd i foddhau ymlyniadau ymchwil eraill.
Mae Stockholm yn gartref i oddeutu cant o amgueddfeydd ac orielau, ac yn cynnig cyfleoedd niferus i ddysgu mwy am y ddinas, ei hanes a’i statws cyfredol.
Roedd arddangosfeydd ar bensaernïaeth a threfolaeth yn ArkDes yn ategu themâu’r gynhadledd yn wych – yn enwedig y rhai ynghylch tir y cyhoedd yn ninasoedd Sgandinafia sy’n destun dadl. Ond hefyd cefais amser i gael pleser ar ran diddordebau ymchwil cydweithwyr yn amgueddfa ganoloesol Stockholm ac arddangosfa Vasa – Mecca go iawn archaeoleg forol!
Yn wir, mae Stockholm yn llenwi safle pwysig yn hanes amgueddfeydd mewn nifer o agweddau.
Yn y ddeunawfed ganrif, roedd y ddinas yn gartref i Carl Linnaeus – arloeswr systemau dosbarthu amgueddfeydd. Ganrif yn ddiweddarach, yn Stockholm y crëwyd Skansen, amgueddfa werin awyr agored gyntaf y byd. Mae Skansen ar agor hyd heddiw, ac yn cynnwys ceirw Llychlyn byw, eirth brown ac anifeiliaid Nordig eraill.
Uchafbwynt mwy personol oedd anifeiliaid marw Amgueddfa Byd Natur Sweden. Mae rhai o’r dioramâu cynefinoedd cyntaf a arddangoswyd yn Stockholm ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chywreinrwydd arddangosion tacsidermi’r amgueddfa’n parhau i greu argraff.
Yn fonws ychwanegol, bu ymweliad â’r Amgueddfa Byd Natur yn fodd i mi chwilio am gorilaod cyn fy mhapur ymchwil diweddaraf!
Gorilaod? Tai? Amgueddfeydd? Beth arall allech chi ei ddymuno o daith i gynhadledd?!
Leave a Reply