Myfyrwyr Llambed yn y Gynhadledd Ganoloesol Ryngwladol, Leeds

Myfyrwyr Llambed yn y Gynhadledd Ganoloesol Ryngwladol, Leeds

Yn y Drindod Dewi Sant, nid y darlithwyr yw’r unig rai sy’n mynd i gynadleddau academaidd.  Rydym hefyd yn annog ein myfyrwyr israddedig i samplu profiadau cynadleddau.  Ac i ysgolheigion yr oesoedd canol, nid oes cynhadledd fwy pwysig na’r Gynhadledd Ganoloesol Ryngwladol (IMC) ym Mhrifysgol Leeds.  Yn y darn hwn, clywn gan ddwy fyfyrwraig Astudiaethau Canoloesol – Molly Hoffman a Natasha Coombs (yn y llun yma gyda chyd-fyfyrwyr o Lambed a staff y Gyfadran yn Leeds) – am eu hamser yng nghynhadledd yr IMC 2018.

Molly Hoffman

Heb os nac oni bai, mynd i gynhadledd yr IMC eleni oedd uchafbwynt fy haf.

Profiad a oedd, i’r un graddau, yn rhyfedd ac yn ysbrydoli.  Roedd hi mor ddieithr mynd o fod mewn adran fach ar gampws bach i fod ynghanol 2,800 o ganoloeswyr.  Roedd pethau a glywais ar hap yn amrywio o sgyrsiau am effeithiolrwydd maelwisg i ddadleuon brwd dros hoff seintiau a hyd yn oed ddatganiad gan ddarlithydd uchel ei barch ‘na ddylai fod wedi cael y medd yna amser cinio.’

Es i nifer o sesiynau diddorol iawn ar bopeth o lythrennau rwnig i fapiau canoloesol i lenyddiaeth arwrol Almaeneg.

Roedd y Drindod Dewi Sant yno yn llu ac roedd yn wych gweld aelodau o’n cyfadran yn ffynnu yn eu cynefin naturiol.  Es i sesiwn anhygoel lle cyflwynodd aelodau o Ganolfan Sophia yn y Drindod Dewi Sant eu hymchwil ar y berthynas rhwng mynachdai Sistersaidd Prydain a’u haliniad â machlud haul ar ddyddiau pwysig ar y calendr.  Rhwng darlithoedd, gwaith ac elfennau cymdeithasol bywyd myfyriwr, mae’n hawdd iawn colli’r ffaith bod ymchwil diddorol iawn yn deillio o Lambed.

Uchafbwynt arall oedd clywed Dr Erica O’Brien yn cyflwyno papur ar Ddarllen a Chofio yn Benoit gan Farged o Efrog. Roedd y papur yn un o dri mewn sesiwn ardderchog a roddodd rywbeth i mi gnoi cil ar bwnc menywod a llythrennedd yn yr oesoedd canol. Roedd digwyddiadau eraill gwerth eu nodi’n cynnwys trafod Steinbeck gydag academydd a oedd yn amlwg iawn yn ein modwl ar y Croesgadau mewn derbyniad gwin, profi rhyfeddod unigryw disgo’r gynhadledd, a mwynhau cwmni penigamp ‘pererinion’ eraill Llambed.

Rwyf wedi canfod bod mynd i gynadleddau fel cynhadledd yr IMCIMC a Cholocwiwm Canoloesol Gregynog wedi fy ngadael yn teimlo bod byd academia’n llawer mwy hygyrch nag yr oeddwn wedi dychmygu’n flaenorol.  Heb os nac oni bai, mae profiadau o’r fath wedi cyfrannu’n sylweddol i fy mhenderfyniad i astudio ar gyfer gradd MA ond, yr un mor bwysig, maent wedi fy ngwneud yn ymwybodol o ba mor lwcus rwyf wedi bod i astudio o dan ac wrth ochr unigolion mor wych a chefnogol yn y Drindod Dewi Sant Llambed, unigolion sy’n eich ysbrydoli.

Ôl-nodyn:  ar ôl graddio o’r Drindod Dewi Sant, ar hyn o bryd mae Molly yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Astudiaethau Canoloesol ym Mhrifysgol Caerefrog

Natasha Coombs

Os ydych chi’n gyfarwydd â’n campws bychan iawn yn Llambed yn unig, byddwch yn barod am sioc:  mae campws Prifysgol Leeds yn enfawr.  Cynifer o adeiladau, felly diolch byth bod mapiau ymhobman – er bod ystafelloedd ag enwau ac nid rhifau’n gallu bod yn her.  Ond mae rhywun wrth law bob amser i ofyn iddo, felly problem dros dro’n unig yw dod o hyd i’r ffordd i’r sesiwn nesaf.

Y broblem fwyaf yn sicr yw maint y Gynhadledd: cannoedd o bapurau mewn cannoedd o sesiynau, a’r rhan fwyaf yn edrych yn ddeniadol. Sut i ddewis?

Yn gyntaf canolbwyntiais ar bynciau roeddwn eisoes wedi gweithio arnynt, wedyn ar bethau byddaf yn gweithio arnynt yn y flwyddyn academaidd nesaf, information available.  Dewisais un sydd yn ddiddordeb penodol, a phe byddai unrhyw slot wedi bod yn rhydd, byddwn wedi dewis un annhebygol:  pwnc nad oeddwn yn gwybod dim amdano.

O ran hanfodion bywyd: mae’r ystafelloedd yn gyfforddus, er oni bai eich bod yn hoffi cerdded, osgowch Neuadd Devonshire; mae bwyd ar gael yn hwylus ac mae’r ddau far yn dda.  Roedd y teras awyr agored yn arbennig o boblogaidd eleni (er rwy’n meddwl fy mod i’n cofio datgan fy mod i’n Falcyri ar un adeg…)

Ôl-nodyn:  mae Natasha newydd ddechrau ei hastudiaethau Lefel 6 yn y Drindod Dewi Sant Llambed.

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

*