Ym mis Hydref, campws Llambed oedd safle lansio llyfr newydd am Rufain a masnach Cefnfor yr India gan Dr Matthew Cobb, Darlithydd yn y Clasuron. Yn y blog hwn, mae Matt yn dweud wrthym ni am y llwybr a’i harweiniodd at ddilyn y pwnc diddorol hwn.

Ar 30 Awst eleni, cefais y boddhad o weld fy llyfr Rome and the Indian Ocean Trade from Augustus to the Early Third Century CE mewn print o’r diwedd.

Rwy’n gallu rhoi fy mys ar y cyfnod pan ddechreuais i ymddiddori yn y pwnc hwn.

Yn ôl yn nyddiau tywyll, pell canol y 2000au pan oeddwn i’n dal yn fyfyriwr israddedig, dewisais i gymryd modwl a oedd y tu allan i fy rhaglen astudio arferol (Hanes yr Hen Fyd).

Roedd y modwl yn ymwneud â chysylltiadau Ewrop yng Nghefnfor yr India yn y Cyfnod Modern Cynnar, gan rychwantu 1500-1800. O hynny ymlaen, roeddwn i wedi gwirioni.

I mi roedd y pwnc yn gyfareddol am nifer o resymau. Archwilion ni’r rhyngweithio rhwng pobloedd ag ieithoedd, diwylliannau a chrefyddau gwahanol a sut gwnaethon nhw ymdopi â gwahaniaethau o’r fath. Penbleth arbennig i mi oedd parodrwydd morwyr, marsiandwyr ac anturwyr i deithio pellteroedd mor fawr i gael gafael ar gynnyrch megis sbeisiau a phersawrau, gan ddod ar draws llawer o beryglon ar eu teithiau – rhai naturiol, megis stormydd peryglus, a rhai “o waith dyn”, megis môr-ladrata.

Es i â’r diddordeb hwn yng Nghefnfor yr India gyda mi pan ddechreuais fy PhD ym Mhrifysgol Abertawe ar ddiwedd y 2000au. Yn bersonol roedd y ddau beth yn bwnc pleserus i’w astudio – am fy mod i’n hoffi hanes economaidd a meddwl am ryngweithio trawsddiwylliannol.

Yn fonws ychwanegol, rhoddodd esgus i mi ymweld ag India tra oeddwn i’n dal i wneud fy PhD. Yn 2010, achubais ar y cyfle i ymweld â Chennai, Pondicherry a Kochi.

Rydw i wedi parhau â’r diddordeb hwn a’i ehangu dros y degawd diwethaf, sydd wedi arwain yn y pendraw at y llyfr rydw i wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar.

Mae’r llyfr yn archwilio datblygiad cyfnewid masnachol rhwng bydoedd Môr y Canoldir a Chefnfor yr India o adeg Rhufain yn cyfeddiannu’r Aifft (30 CC) hyd at ddechrau’r drydedd ganrif OC. Ymhlith y materion dan ystyriaeth mae hunaniaethau’r rheini oedd ynghlwm â

hyn, sut gwnaethon nhw eu trefnu a’u hariannu eu hun, yr heriau a’u hwynebai (amseru, logisteg, diogelwch, amodau hwylio), a’r mathau o nwyddau roeddent yn eu masnachu.

Gan dynnu ar gorpws cynyddol o dystiolaeth newydd, nod y llyfr yw ailasesu nifer o dybiaethau ysgolheigaidd hirdymor am natur cyfranogiad y Rhufeinwyr yn y fasnach hon. Mae’r rhain yn amrywio o’i datblygiad cronolegol i’w heffaith economaidd a chymdeithasol.

Edrychaf ymlaen at bawb yn ei ddarllen!

Related Posts

An historian on the trail of housing (and gorillas!) in Stockholm

Ar drywydd hanes tai (a gorilaod!) yn Stockholm

Myfyrwyr Llambed yn y Gynhadledd Ganoloesol Ryngwladol, Leeds

Lampeter students at the International Medieval Congress, Leeds

Adolygiad o Gynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig Ryngddisgyblaethol 2018 gan Thomas Humphrey, ymgeisydd PhD ym maes Archaeoleg Cyprus

2018 Interdisciplinary Postgraduate Research Conference in Review by Thomas Humphrey PhD candidate in Cypriote Archaeology

Comments

Reply comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *